Post Pic

• Amserlen Chwaraeon 5 x 60 - cliciwch yma

 

 

 

 

 

 

 

15.03.19 Taith Sgio i Risoul, Ffrainc, Chwefror 2019

Taith Sgio

cliciwch yma i weld y fideo

07.03.18 Traws Gwlad Ysgolion Cymru - Rownd Derfynol

lleucu

Llongyfarchiadau i Lleucu Lane a Huw Evens yn cynrychioli Eryri yn rownd derfynol Traws Gwlad Ysgolion Cymru yn Aberhonddu.

22.03.17 5x60

Glanllyn

Cliciwch yma i weld y PDF

 


22.03.17 Philipa Tuttiett

Glanllyn

Cafodd Llysgennad Sky Sports Living am Chwaraewr Gwledydd Cartref y flwyddyn ei chroeawu i Ysgol Eifionydd dydd Iau 16/03/17 i rannu ei llwyddiannau gyda genod Bl.7, 8, 9 a 10. Mwynhaodd y genod sesiwn hyfforddi hefyd. Diolch i Nigel Hughes Ffotograffydd am y llun.


16.09.16 Llongyfarchiadau

disgyblion


Llongyfarchiadau i Cari Davies, Mian Sion, Awen Puw a Millie Nunn Booton ar gael eu dewis i gynrychioli Tim Meirionydd a Dwyfor

Dyma Tim hoci dan 16
ddaeth yn ail yn
Nhwrnament hoci dan 16
Meirionnydd a Dwyfor
dydd Iau 15/09/16.
Llongfarchiadau iddynt.

Dyma’r canlyniadau:
Ennill Ysgol y Moelwyn 3-0
Colli Glan y Môr 3-0
Ennill Ysgol Botwnnog 2-1
Ennill Ysgol y Berwyn 3-0

disgyblion

12.05.16 Rygbi

tim rygbi

Cynhaliwyd Twrnament Rygbi 5x60 yng Nghaernarfon ar Ebrill 29ain. Llwyddodd tîm o fechgyn Bl.7 i ennill y twrnament. Llongyfarchiadau mawr i’r hogiau a llawer o ddiolch i Mr. Gareth Crowe am eu hyfforddi.

 


12.05.16 Hoci

tim hoci

plant

Llongyfarchiadau i dim hoci Blwyddyn 7.


12.05.16 Pêl droed Genethod

plant

Llongyfarchiadau i Shannon Dukes a Cassia Pike - cliciwch yma

15.03.16 Rygbi

plant plant plant
plant plant plant
Llongyfarchiadau - Rygbi 11/03/16 Hogiau dan 13
Ysgol Eifionydd 50 Amlwch 0
Da iawn chi hogiau.

 


05.02.16 Pêl droed

plant

Tim Pêl droed Blwyddyn 7 Ysgol Eifionydd 5 Ysgol Glan y Môr 1

 

07.10.15 5x60 Caiaco

caiaco

 

 


25.09.15 Hoci, 5x60 a Nofio!

pupils

Mian Sion, Cari Davies, Cassia Pike ac Erin Parry. Wedi eu dewis i chwarae hoci i dim Meirion Dwyfor dan 16.

pupils

Disgyblion 5x60 gyda cyfranogiad uchel yn y sesiynau 5x60 amser cinio ac ar ôl ysgol. Disgybl 5x60 y flwyddyn: Awen Ifan Puw.

pupils

Medi Harris - Mae Medi wedi ei gosod ar y rhestr o’r 10 gorau yn y Deyrnas Unedig ac yn uchel iawn ymysg y goreuon yng Nghymru. Mae wedi ei dewis i nofio i’r Tim Cenedlaethol Ieuenctid dan 15.

 

CANLYNIADAU MABOLGAMPAU YSGOL EIFIONYDD 2015

I weld y canlyniadau - cliciwch yma

I weld y lluniau - cliciwch yma


 

cyflwyniad chwaraeon

GENETHOD - PENCAMPWYR RYGBI YSGOLION GWYNEDD A MÔN 2015

BECHGYN - PENCAMPWYR RYGBI TARIAN YSGOLION ERYRI 2015

Cliciwch yma i weld ein lluniau




tim rygbi merched Llongyfarchiadau i dîm rygbi merched blwyddyn 8,9 a 10 sydd wedi ennill cystadleuaeth rygbi ysgolion Gwynedd a Môn am yr ail flwyddyn yn olynol. Llwyddodd y tîm i guro Ysgol Botwnnog 20 – 0 yn y gêm gyn derfynol a churo Ysgol Dyffryn Ogwen 15 i 0 yn y gêm derfynol. Cafodd Cassia Pike ei henwebu fel chwaraewraig gorau y twrnament.



tim rygbi bl 9 a 10 Mae tîm rygbi blwyddyn 9 a 10 Ysgol Eifionydd wedi llwyddo i gyrraedd y gêm derfynol Cwpan Ysgolion Eryri. Mae’r tîm wedi ennill Ysgol y Gader 42 i 12 ac Ysgol Tryfan 35 i 0. Bydd y tîm yn chwarae Ysgol John Bright yn y gêm derfynol ddechrau mis nesaf. Dymuniadau gorau i’r tîm.



gwion jones

Llongyfarchiadau i Gwion Jones sydd ym mlwyddyn 8 Ysgol Eifionydd sydd wedi llwyddo i gael ei ddewis i gynrychioli tîm hoci Gogledd Cymru. Llongyfarchiadau Gwion.



medi harris
Mae Medi Harris sydd ym mlwyddyn 7 yn Ysgol Eifionydd â dyfodol disglair o’i blaen yn y byd nofio. Llwyddodd yn ddiweddar i ennill 9 cystadleuaeth yng Nghystadleuaethau Nofio Cymru.



tim pel droed merched Mae tîm pêl droed merched Bl 9 a 10 wedi llwyddo i gyrraedd gêm derfynol Ysgolion Cymru am y pedwerydd tro yn olynol. Mae’r tîm wedi llwyddo i guro 7 gêm i gyrraedd y gêm derfynol a gynhaliwyd ar gaeau pêl droed Aberystwyth. Er fod Ysgol Eifionydd wedi curo’r gwpan am y 3 mlynedd diwethaf, yn anffodus nid oeddent yn gallu ennill y tro hyn yn erbyn ysgol Uwchradd Caerdydd.



shannon a cassia Bu Shannon Dukes a Cassia Pike mewn twrnament yn Ynysoedd Faroe wythnos diwethaf yn cynrychioli tîm pêl droed merched Cymru dan 15. Mae’r ddwy hefyd yn cynrychioli tîm Cymru dan 17 mewn twrnament yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf. Dipyn o gamp i genod pedair ar ddeg oed!
Llongyfarchiadau mawr.



athletwyr Llwyddodd nifer o ddisgyblion Ysgol Eifionydd i ennill neu ddod yn ail mewn amryw o gystadlaethau yn Athletau Meirionnydd a Dwyfor. Mae’r unigolion yn mynd i Athletau Eryri i gystadlu ar y 7fed o Fai. Pob hwyl iddynt.


Tymor yr Haf 2014 - Adroddiad Chwaraeon Ysgol Eifionydd

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad yn llawn

Cliciwch yma os nad ydych yn gallu gweld y lluniau symudol isod

Oriel

 

geneth geneth

 

Bl. 7, 8 a 9: 2 wers o 60m yr wythnos

GWEITHGAREDD

BL.7
(Tymor)

BL.8
(Tymor)

BL.9
(Tymor)

GYMNASTEG
½
½
½
DAWNS / GAA
½
½
½
PELDROED
½
1
½
RYGBI
1
½
1
HOCI
½
½
½
PÊL RWYD
½
½
½
PÊL DROED
½
½
½
TENIS
½
½
½
ROWNDERI
½
½
½

ATHLETAU + XC

1

1

1


1 wers o 60m bob wythnos

Dewisir un gweithgaredd o bob colofn (12 awr yr un)

BL. 10 ac 11

Dawns (Bl.10 yn unig)
Ffitrwydd
Pêl Rwyd/Hoci
Rownderi
Dringo
Badminton
Pêl Droed/Rygbi  
Tenis

Mae'r disgyblion sydd yn dewis T.G.A.U. - Addysg Gorfforol yn cael 2 awr yr wythnos yn ychwanegol.

Pwysleisir yma ar:

ATHLETAU, GEMAU TIM, FFITRWYDD, ACHUB BYWYD, GWEITHGAREDDAU AWYR AGORED

40% yn mynd ar theori – 1 arholiad ysgrifenedig o 1½ awr.

GWEITHGAREDDAU ALLGYRSIOL YR YSGOL

CLYBIAU AMSER CINIO AC AR ÔL YSGOL

Pêl Droed, Rygbi, Hoci, Pêl Rwyd, Pêl Fasged, Gymnasteg, Athletau, Rownderi, Dawns, Dringo, Golff.

Timau cystadlu: Pêl Droed, Rygbi, Hoci, Pêl Rwyd, Golff, Tenis, Athletau, Trawsgwlad, Rownderi, Pêl Fasged.

Cyfleusterau:          
2 Gampfa  (+ Wal ddringo)
1 Cae Pêl Droed
2 Cae Rygbi
1 Cae Hyfforddi (gridiau)
3 Cwrt Tenis
2 Ystafell Newid a Chawodydd

 

Cymwysterau Athrawon

Mr. Gwyn Owen: BSC Gwyddoniaeth Chwaraeon + Addysg Gorfforol / TAR.

Miss Lyn Parry: Baglor yn y Celfyddydau - Chwaraeon ac Astudiaethau Symudiad Dynol / TAR.


Cysylltiad â chlybiau lleol

Mae cysylltiad trwy gyfarfodydd ffurfiol, yn arbennig gyda - pêl droed, rygbi, hoci, pêl rwyd a chriced.

Mae cyswllt â Swyddogion datblygu'r Sir.

 

Lluniau

Ysgol Eifionydd ar flickr.com